Rheilffordd Llyn Tegid

Rheilffordd Llyn Tegid, taith ddwyffordd 9 milltir ar hyd glannau Llyn Tegid ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Bydd pob trên yn dechrau a gorffen yng ngorsaf Llanuwchllyn gyda’i gaffi, siediau locomotif a chanolfan treftadaeth.

Rheilffordd Llyn Tegid

Mae rheilffordd Llyn Tegid, yn daith ddwyffordd hyfryd 9 milltir ar hyd glannau Llyn Tegid ym Mharc Cenedlaethol Eryri.

Mae Rheilffordd Llyn Tegid yn daith ddwyffordd hyfryd 9 milltir ar hyd glannau Llyn Tegid ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Bydd pob trên yn dechrau a gorffen yng ngorsaf Llanuwchllyn gyda’i gaffi, siediau locomotif a chanolfan treftadaeth.

Mae Rheilffordd Llyn Tegid yn gymysgwch hyfryd o drenau rheilffordd gul ar hyd hen drac gwely lein Rhiwabon a’r Bermo a rheilffordd y Great Western rhwng pentref heddychlon Llanuwchllyn a Gorsaf Pen-y-bont gynt, ar ochr arall Llyn Tegid i dref farchnad y Bala. Agorwyd y rheilffordd gul ym 1972, ac mae’r casgliad sy’n tyfu o locomotifau stêm oll dros gan mlwydd oed.

Mae’r rheilffordd yn cynnal casgliad mwyaf y byd o locomotifau stêm Hunslet gynt, gyda phob un ond un wedi gweithio yn chwarel lechi Dinorwig yn Llanberis. Yn ogystal â’r tri locomotif hanesyddol yma, mae gan y rheilffordd gasgliad sy’n tyfu o gerbydau a wagenni llechi sy’n rhoi bywyd newydd i ddiwydiant a fu unwaith yn enfawr.

Mae’r rheilffordd yn defnyddio adeiladau gorsaf lled safonol gwreiddiol a bocs signalau ar fin ffordd yr orsaf yn Llanuwchllyn. Gall teithwyr fel arfer ymweld â’r bocs signalau sy’n gweithio, y ganolfan dreftadaeth a’r shed locomoitf (yn ddibynnol ar waith cynnal a chadw). Mae graddfa lai'r gwaith rheilffordd, yr hen adeiladau a’r locomotifau’n golygu bod gan staff a gwirfoddolwyr y rheilffyrdd amser i ymdrin ag ymwelwyr bron yn unigol.

Mae Ymddiriedolaeth Llyn Tegid yn gweithio tuag at godi £2.5 miliwn fel rhan o’i Brosiect Draig Goch i adeiladu estyniad i Reilffordd Llyn Tegid i orsaf y Bala, yng nghanol y dref.

Rheilffordd Llyn Tegid map
01678 540666
Rheilffordd Llyn Tegid

The Station
Llanuwchllyn
Gwynedd
LL23 7DD


LL23 7DD

Dod o Hyd i Ni

Ar drên
Y gorsafoedd rheilffordd agosaf yw Rhiwabon (rhwng yr Amwythig a Chaer) a’r Bermo (ar lein Arfordir y Cambrian). Mae bws y T3 yn cysylltu’r ddwy orsaf ac mae’n aros hefyd gerllaw gorsaf Llanuwchllyn.

Ar fws
Mae gwasanaeth bws T3 TrawsCymru’n mynd o Wrecsam i’r Bermo.
Disgynnwch yn arosfan Llanuwchllyn ar bendraw Ffordd yr Orsaf (dywedwch wrth y gyrrwr eich bod eisiau dal y trên), yna cerddwch am 5 munud i’r Orsaf.

Mewn Car
Mae pencadlys Rheilffordd Llyn Tegid yn Llanuwchllyn, ar ochr de-orllewinol Llyn Tegid. Dyma’r fan orau i ddechrau eich taith.
Gan deithio ar hyd yr A494 bydd angen i chi droi ym mhentref Llanuwchllyn. Ym mhen draw’r pentref edrychwch yn ofalus am yr arwydd twristiaeth brown a throwch i’r chwith i Ffordd yr Orsaf, dros bont yr afon ac mae’r mynediad o’ch blaen.

Parcio
Mae digonedd o le parcio ar gael am ddim yn safle’r orsaf, yn Llanuwchllyn. Gellir darparu cyfleusterau troi a pharcio ar gyfer partïon bws sy’n bwcio ymlaen llaw.


Stay

Accommodation 10% with our Discount Card

*available at selected accommodation

Bala Bwch yn Uchaf
Bwch yn Uchaf, B & B and Touring Caravan & Camping Site

Bwch yn Uchaf, B & B and Touring Caravan & Camping Site, Llanuwchllyn, Y Bala, Gwynedd, LL23 7DD, 01678 540983

Bwch Yn Uchaf Bed & Breakfast, 1800’s stone build house, is situated at the edge of a beautiful village of Llanuwchllyn, with the campsite overlooking Lake Bala. It is also right next door to the Bala Lake Railway’s main station, so once you’ve arrived you can leave the car behind, as it’s so easy to catch the train to visit Bala.

Bala y plas coch
Y Plas Coch

The Plas Coch Hotel, High Street, Bala, Gwynedd, LL23 7AB 01678 520309

The Plas Coch Hotel is an historic establishment in Bala it was originally built as a coaching inn around 1780. All bedrooms are spacious and have private bathrooms or shower rooms. Bar Meals are available which includes some traditional Welsh dishes.

Cross foxes
Cross Foxes Bar and Grill, Rooms

Cross Foxes Bar and Grill, Rooms, Brithdir, Dolgellau, Gwynedd, LL40 2SG 01341 421001

A 5 Star award winning Bar, Grill and Rooms in a Grade 11 listed building. Nestled at the foot of Cadair Idris Mountain and 13 miles from village of Llanuwchllyn.


Nearby

NVW E14 2122 0366
Bala and Penllyn

Bala is a small, historic, market town that provides all the essential services for visitors.
Penllyn is the area around Bala with many small towns and villages each with their own character and history.

Bala Adventure Watersports
Bala Adventure and Watersports

Bala Adventure and Watersports is one of the UK’s top specialists in outdoor activity, on water and land, including; canoeing/kayaking, climbing/abseiling, windsurfing, sailing, archery, camp craft, raft building, mountain biking, powerboating, hill walking, gorge walking and whitewater rafting.

Bala White Water Centre
Canolfan Dŵr Gwyn Genedlaethol

Mae’r Ganolfan Dŵr Gwyn Genedlaethol yn cynnig anturiaethau dŵr gwyn ardderchog o’n canolfan ar lan Afon Tryweryn ger Y Bala.

Book online now!