Rheilffordd Eryri

Mae’n rhaid mai un o’r ffyrdd mwyaf trawiadol i weld golygfeydd i’ch ysbrydoli ym Mharc Cenedlaethol Eryri yw mynd ar daith ar y Rheilffordd Eryri newydd.

Rheilffordd Eryri

Taith trên fel yr arferai fod a geir ar Reilffordd Eryri. Gan gychwyn o dan furiau castell tref hanesyddol Caernarfon, dringa’r rheilffordd i odrau’r Wyddfa cyn disgyn eto i lefel y môr yn harbwr Porthmadog.

Caeodd y rheilffordd wreiddiol ym 1936 a bellach cafodd ei hailadeiladu’n llwyr gan wirfoddolwyr ar gost o £28 miliwn. Gyda’r lein 25 milltir bellach wedi’i chwblhau, a gosodiad dau blatfform newydd £1.25 miliwn yng Ngorsaf Harbwr Porthmadog (ynghyd ag adeilad signalu semaffor sylweddol), mae bellach yn bosibl cysylltu â’r Rheilffordd Ffestiniog sy’n fyd enwog a phrofi 40 milltir ddi-dor o stêm ar reilffordd gul drawiadol.

Mae’r daith drwy Fwlch Aberglaslyn gafodd bleidlais aelodau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol fel man prydferthaf y DU yn hudol ac mae’r golygfeydd o Eryri o wastatiroedd eang Traeth Mawr a adfeddiannwyd o’r môr gydag adeiladu arglawdd y Cob milltir o hyd 200 o flynyddoedd yn ôl yn wirioneddol anhygoel.

Mae’r rheilffordd yn cynnig amrywiaeth o dripiau gwych eraill. Mae’r lein yn galluogi teithwyr i gael mynediad hawdd i rai o’r teithiau mwyaf poblogaidd i fyny’r Wyddfa fel Llwybr Cwellyn o Ryd Ddu a llwybrau i fyny Mynydd Mawr neu dros Grib Nantlle.

Does bosibl mai un o’r profiadau gorau yng ngogledd Cymru yw eistedd yng nghlydwch un o’r cerbydau Pullman dosbarth cyntaf, fel y mae’r cyffro o deithio yn un o’r cerbydau agored tu cefn i locomotifau stêm lein gul fwyaf pwerus y byd, y Beyer Garratt NG/G16.

Mae’r locomotifau nerthol yma sy’n pwyso dros 60 tunnell yn fwy pwerus na llawer o beiriannau stêm leiniau safonol ac mae eu sŵn yn gweithio’n galed wrth ddringo un o reilffyrdd mwyaf anodd y DU yn brofiad i’w sawru i unrhyw un sy’n frwd dros stêm - mae esgyn chwe milltir ar raddfa 1 i 40 yn dalcen caled.

Ceir gorsafoedd hefyd ym Meddgelert, canolbwynt hudolus o ddiwylliant Cymreig, a Phont Croesor, gerllaw Canolfan Gwalch Glas y RSPB. Mae’r rheilffordd yn arwain drwy strydoedd Porthmadog er mwyn cysylltu â Rheilffordd Ffestiniog, y cwmni rheilffordd hynaf annibynnol yn y byd, a sefydlwyd gan Ddeddf Seneddol ym 1832.

Mae’r ardal yn enwog am ddetholiad o dafarnau cwrw iawn rhagorol, tebyg i’r rhai a geir yn Waunfawr a Rhyd Ddu, ac mae lôn feics Lôn Eifion yn cyd-redeg â'r lein o Gaernarfon i Dinas, lle darperir wagenni arbennig i gludo beiciau.

Heddiw, mae’r miloedd o dwristiaid a ddaw i fwynhau harddwch naturiol Eryri wrth iddynt deithio drwy ardaloedd heb eu cyffwrdd gan ffyrdd a heb i synau a golygfeydd bywyd modern darfu arnynt, wedi disodli’r miloedd o dunelli o lechi gynt.

Mae rheilffyrdd Eryri a Ffestiniog yn diwallu anghenion pawb, yn cynnwys defnyddwyr cadeiriau olwyn gyda’u cerbydau a chanddynt ddrysau llydan iawn ac adeiladau arbennig.

Rheilffordd Eryri map
01766 516000
Rheilffordd Eryri

c/o Harbour Station
Porthmadog
Gwynedd


LL49 9NF

Dod o Hyd i Ni

Ar drên
Caernarfon: Y brif lein reilffordd agosaf yw Bangor. Ceir gwasanaeth bws o Gaernarfon a Phorthmadog.
Porthmadog: Mae Lein y Cambrian yn mynd o’r Amwythig yn Swydd Amwythig, Lloegr, i Borthmadog.

Ar fws
Mae bws T2 Traws Cymru’n darparu gwasanaeth uniongyrchol rhwng trefi prifysgol Bangor ac Aberystwyth, saith niwrnod yr wythnos, ac yn aros yng Nghaernarfon a Phorthmadog. Mae bysiau Arriva buses a Lloyd's Coaches hefyd yn darparu gwasanaeth bws.

Mewn Car
Offer Llywio â Lloeren: LL55 2YD

Parcio
Caernarfon: Mae yna faes parcio bychan wrth ochr Gwynedd Tyres, tra bod maes parcio mawr Cei Llechi ger y castell ond yn daith gerdded rai munudau.
Porthmadog: Mae maes parcio gorsaf reilffordd Harbwr Porthmadog ar gael (LL49 9NF), £2.00 am barcio drwy’r dydd. Os yw’n llawn, cewch eich cyfeirio at y maes parcio gorlif, £2.00 y dydd.
Nid oes cyfleusterau parcio mewn gorsafoedd eraill, ond mae modd parcio mewn mannau cyhoeddus gerllaw.


Stay

Discounts off stays with our Card

*available at selected accommodation

Black Boy Inn
Black Boy Inn

Traditional, friendly hotel and pub in Caernarfon. The best beer, great food, a variety of rooms in the town.

Ty Mawr BB1 300x225
Ty Mawr B&B

A traditional stone house in Rhyd Ddu with three double rooms. Perfect for walkers and train lovers.

Tudor lodge
Tudor Lodge

A warm welcome awaits you at the Tudor Lodge, Porthmadog, family-run with cosy and comfortable rooms. Well known for their Scandinavian Style breakfast or a cooked breakfast option.


Nearby

NCX VH02 1819 0030
Caernarfon Castle

Iconic, royal and a fortress guarding the River Seiont and Menai Strait. Walk the walls, explore Queen’s Gate and learn more at the exhibition.

SC SNOWDON 0028
Rhyd Ddu Path

Rhyd Ddu Path is well known as a popular starting point for walks up Snowdon, Moel Hebog, Yr Aran and the Nantlle Ridge. Walking experience and preparation is essential.

Portmeirion beach spring IMG 1157
Portmeirion Village

Portmeirion, (reached from Minffordd station) is home to two hotels, a cluster of historic cottages, iconic architecture, restaurants, an Italian ice cream parlour, exotic gardens and sandy beaches.

Book online now!