Rheilffordd Fairbourne

Profwch harddwch Moryd y Fawddach ar y rheilffordd miniatur (fechan) hanner maint arfordirol sy’n cysylltu pentref Fairbourne gyda’r môr yn Fferi’r Bermo.

Rheilffordd Fairbourne

Bu Rheilffordd Fairbourne yn rhedeg o bentref Fairbourne i aber y Fawddach am ragor na chanrif. Mae’n cysylltu’r fferi ar draws yr harbwr i’r Bermo.

Adeiladwyd pentref Fairbourne yn ystod y 1890au, gydag ymwelwyr mewn golwg. Defnyddiwyd tramffordd i symud deunyddiau ac yn fuan roedd yn cario teithwyr. Wrth i ddefnydd y lein newid dros y blynyddoedd, fe’i huwchraddiwyd ar gyfer cynnal trenau stêm.

Dechreuodd ei hanes ym 1896 fel tramffordd dwy droedfedd o led wedi’i thynnu gan geffyl, ac fe’u trowyd yn lein reilffordd 15 modfedd ym 1916. Fe ailadeiladwyd y lein yn llwyr ym 1986 i lein 12.25 modfedd.Mwynhewch siwrnai 2 filltir o bentref Fairbourne, ar hyd y traeth i ben draw’r penrhyn ac yn ôl.

Bydd un o bedwar locomotif stêm, Yeo, Sherpa, Beddgelert a Russell sydd wedi’u hatgynhyrchu i hanner maint injanau reilffordd gul yn mynd â chi ar eich taith. Neu teithiwch ar injan ddiesel 12.25 modfedd o led - ‘Tony’, a enwyd ar ôl yr Athro Tony Atkinson a chwaraeodd ran allweddol yn diogelu’r lein.

Mae’r rheilffordd yn gartref i amgueddfa a rheilffordd model dan do a’i osodiad ar Raddfa G fawr. Mae dau gaffi ar bob pen i’r rheilffordd. Mae’r Station Café ar blatfform Fairbourne; mwynhewch ddewis o paninis, brechdanau, cacennau, te a choffi arbennig a diodydd meddal. Dyma’r fan i brynu’ch tocynnau trên a swfenîrs. Mae’r Harbour View Café ar derminws y rheilffordd yng Ngorsaf Fferi’r Bermo. Mwynhewch fyrbryd blasus a golygfeydd godidog o Harbwr y Bermo a Moryd y Fawddach, a gwyliwch y trenau’n mynd a dod.

Rheilffordd Fairbourne map
01341 250362
Rheilffordd Fairbourne

Beach Road
Fairbourne
Gwynedd
LL38 2EX


LL38 2EX

Dod o Hyd i Ni

Ar drên
Trafnidiaeth Cymru sy’n gweithredu lein Reilffordd Arfordir y Cambrian sy’n gwasanaethu Fairbourne

Ar fws
Mae bysiau T2 Traws Cymru sy’n mynd i Ddolgellau’n gwasanaethu Fairbourne. Yna bws Rhif 62 neu Rif 43 Arriva a gwasanaeth Rhif X28 bysiau Lloyd's Coaches i Fairbourne.

Mewn Car
Mae’r rheilffordd ar arfordir Canolbarth Cymru ar ochr Ddeheuol Moryd y Fawddach. Mae Fairbourne hanner ffordd rhwng Tywyn a Dolgellau, oddi ar yr A493.
Gallwch ddal y Fferi i gerddwyr o lan cei'r Bermo a dal y trên yng Ngorsaf Fferi’r Bermo.

Parcio
Mae yna faes parcio Network Rail bychan yng Ngorsaf Fairbourne dros y ffordd o brif arosfan bws Fairbourne.


Stay

Discounts off stays with our Card

*available at selected accommodation

Einion House fairbourne
Einion House

An 18th Century house with spectacular views. This hotel style accommodation offers the personal homely experience of a Bed and Breakfast.

Panteinion hall
Panteinion Hall

Situated in the beautiful scenic wooded Panteinion Valley opposite the falls. Specialising in Group bookings of six or more and so the Hall is exclusively yours.

Tyr Graig Castle
Ty’r Graig Castle

Ty’r Graig Castle combines history and luxury with 11 en-suite guest rooms and restaurant. Built in late 1890 it retains its Victorian elegance and has stunning views.


Nearby

Fairbourne railway IMG 6595
Children's Playground

Located near to Beach Halt station in the Penrhyn Corner Pay-and-Display car park. Nearby is the Penrhyn Amusement Arcade, there is a commercial play area with bouncy castle, crazy golf, trampolining and mini bumper cars

Geograph 6883384 by Chris Thomas Atkin
Dragon Theatre Barmouth

With a year-round programme of activities and events these converted Victorian chapel houses are home to a traditional theatre (186-seat) plus meeting rooms and a second studio stage.

Barmouth NVW C136 1819 0026
Barmouth Heritage Trail

Highlight points of interest around the centre of Barmouth. Visit places around the centre of Barmouth that have played a part in this history and given the town its character.

Book online now!