Rheilffordd Ffestiniog

'Rheilffordd Fach wirioneddol Wych', Ffestiniog yw cwmni rheilffordd annibynnol hynaf y byd.

Rheilffordd Ffestiniog

Fe’i sefydlwyd gan Ddeddf Seneddol ym 1832, ac fe’i hadeiladwyd i wasanaethu diwydiant llechi Blaenau Ffestiniog. Gallwch weld hanes yn cael ei adrodd dros y blynyddoedd.

Ym Mai 2007, roedd Ffestiniog yn falch o ddathlu pen-blwydd sefydlu’r lein 175 o flynyddoedd yn ôl, ac yn 2014, ei phen-blwydd yn 60 oed ers agor cam cyntaf y lein reilffordd a adfywiwyd wedi’r Rhyfel. Gyda’r gwaith ailadeiladu ar Reilffordd Ucheldir Cymru cyn y rhyfel bellach wedi ei gwblhau, a gosod dau blatfform £1.25 miliwn yng Ngorsaf yr Harbwr ym Mhorthmadog (ynghyd ag adeilad signalu semaffor sylweddol), mae bellach yn bosibl cysylltu gyda threnau i Gaernarfon. Cyfle i brofi 40 milltir ddi-dor o stêm lein gul wefreiddiol.

Gyda’r lein wedi ei hadeiladu’n wreiddiol i wasanaethu diwydiant llechi Blaenau Ffestiniog, grym disgyrchiant arferai weithredu’r lein. Cadwyd wagenni’n gyforiog o lechi’n drybowndian i lawr ochr y mynydd, dan reolaeth gan ddynion brêc. Roeddent yn neidio o wagen i wagen i dynhau neu lacio’r brêc tra chwythai eu cydweithwyr ar flaen y wagen eu cyrn i rybuddio eraill eu bod yn pasio. Cyflwynwyd locomotifau stêm yn ystod y 1860au a heddiw, mae rhai o’r injanau bychain hynny’n halio cerbydau o ymwelwyr drwy olygfeydd godidog Parc Cenedlaethol Eryri.

Mae Blaenau Ffestiniog ar flaen y dyffryn yn parhau i gario creithiau ei orffennol diwydiannol gyda thipiau llechi o gwmpas. Mae un o’r chwareli hyn ar agor i’r cyhoedd ac mae’n ychwanegiad diddorol i’ch diwrnod allan. Mae’r orsaf yng nghanol y dref ar yr A470 ac fe’i rhennir gyda Lein Reilffordd Dyffryn Conwy sy’n arwain o dref wyliau lan y môr Llandudno, gan gysylltu gyda’r brif lein reilffordd yng Nghyffordd Llandudno.

Hanner ffordd ar hyd y lein mae Gorsaf Tan y bwlch, a saif oddi ar y prif ddyffryn yng nghoedwigoedd derw Meirionydd. Mae llawer o lwybrau natur yn cychwyn o’r orsaf, lle da i dorri’ch siwrnai ac i archwilio. Mae’r caffi trwyddedig, sydd ar agor o’r Pasg i’r Hydref, yn gweini dewis o fyrbrydau poeth ac oer i dynnu dŵr i’ch dannedd. Mae gan y caffi drwydded i gynnal priodasau ac mae’n lleoliad anarferol ar gyfer eich diwrnod arbennig.

Mae’r rhan fwyaf o’r trenau’n cychwyn a gorffen ym mhencadlys y rheilffordd yng ngorsaf Harbwr Porthmadog, ar yr A487 ar ben dwyreiniol y dref. Mae’r brif siop anrhegion yn gwerthu amrywiaeth helaeth o anrhegion a swfenîrs ac mae’n darparu’r siop ar-lein www.festshop.co.uk. Rhaid ymweld â chaffi a bar y Spooner's yn hen sied nwyddau’r stesion, a’i dewis helaeth o fwyd a diodydd. Mae Spooner's yn falch o ennill gwobr CAMRA am ‘Dafarn Leol y Flwyddyn’ dair gwaith yn ystod y pedair blynedd ddiwethaf.

Maen nhw’n cynnal digwyddiadau arbennig gydol y flwyddyn a rhaglen 'Gyrrwr Gwadd'.

Mae ymweliad â Rheilffordd Ffestiniog yn cyfleu hanes dros y blynyddoedd a llawer mwy hefyd!

Rheilffordd Ffestiniog map
01766 516000
Rheilffordd Ffestiniog

Harbour Station
Porthmadog
Gwynedd
LL49 9NF


LL49 9NF

Dod o Hyd i Ni

Ar drên
Porthmadog: Mae Rheilffordd y Cambrian yn mynd o’r Amwythig yn Swydd Amwythig, i Borthmadog.
Blaenau Ffestiniog: Mae Lein Reilffordd Dyffryn Conwy’n mynd o Gyffordd Llandudno i Flaenau Ffestiniog.

Ar fws
Porthmadog: Mae T2 Traws Cymru o Borthmadog yn darparu gwasanaeth uniongyrchol rhwng trefi prifysgol Bangor ac Aberystwyth, saith niwrnod yr wythnos ac yn aros yng Nghaernarfon a Phorthmadog.
Mae bysiau Arriva a Lloyd's Coaches hefyd yn darparu gwasanaeth bws.
Blaenau Ffestiniog: Mae bysiau Arriva, John’s Coaches, Llew Jones Coaches a Lloyd's Coaches hefyd yn darparu gwasanaeth bws.

Mewn Car
Cod post yn defnyddio offer llywio â lloeren - Porthmadog LL49 9NF
Cod post yn defnyddio offer llywio â lloeren Blaenau Ffestiniog LL41 3ES

Parcio
Porthmadog: Mae parcio ar gael yng ngorsaf Harbwr Porthmadog (LL49 9NF) £2.00 maes parcio drwy’r dydd. Os yw’n llawn, cewch eich cyfeirio at y Maes Parcio Gorlif, £2.00 drwy’r dydd.
Blaenau Ffestiniog: Nid oes cyfleusterau pario yn yr orsaf, ond ceir parcio cyhoeddus gerllaw.

Ymweld Gwefan