Rheilffordd Dyffryn Rheidol

Chwythiad o’r chwiban a hisian y stêm - a ffwrdd a chi! Eisteddwch yn ôl ac ymlaciwch ar daith hiraethus drwy olygfeydd aruthrol.

Rheilffordd Dyffryn Rheidol

Teithio ar hyd Rheilffordd Dyffryn Rheidol yw’r ffordd orau i weld golygfeydd gwych Dyffryn y Rheidol. Fe agorwyd y lein ym 1902, ac mae’r rheilffordd wedi bod yn destun llawenydd i’r hen a’r ifanc ers rhagor na chanrif.

Gwelwch gefn gwlad yn newid wrth i chi deithio drwy gaeau agored llydan, dolydd, coetiroedd a golygfeydd o fynyddoedd cadarn. Ewch ar daith mewn cerbydau agored yn yr haf neu yng nghlydwch Salwnau gwylio dosbarth cyntaf. Mae’r trên yn cordeddu wrth i’r cerbydau ddal eu gafael yn ochr y mynydd.

Mae’r rheilffordd yn gampwaith peirianyddol cyfareddol a agorwyd ym 1902 i gario mwyn plwm, pren a thraffig teithwyr. Mae’r trac lled gul yn galluogi’r rheilffordd i ddilyn cyfuchlinau’r tir a’i gromliniau a graddiannau serth niferus.

Fe gymer y daith 11.75 milltir tuag awr i bob cyfeiriad. Gwrandewch ar sŵn locomotif stêm pwerus y lein lled cul wrth iddo weithio i ddringo 700 troedfedd (200m) o Aberystwyth i Bontarfynach.

Yn gyffredinol, bydd y trenau’n aros am awr yng ngorsaf Pontarfynach, cyn dychwelyd i Aberystwyth. Disgynnwch oddi ar y trên yn un o’r gorsafoedd canolradd a adferwyd yn ddiweddar ac archwiliwch lawer o lwybrau’r dyffryn. Os hoffech ragor nag awr i archwilio, gallwch ddychwelyd ar drên hwyrach. Trafodwch hyn gyda’r Giard os gwelwch yn dda.

Adeiladwyd yr injanau stêm a cherbydau ddoe ar gyfer lein Reilffordd y Great Western yn yr 1920au a’r 30au. Maent wedi eu hadfer bellach ac yn gweithredu o hyd ar y trenau heddiw.

Rheilffordd Dyffryn Rheidol map
01970 625819
Rheilffordd Dyffryn Rheidol

Park Avenue
Aberystwyth
Ceredigion


SY23 1PG

Dod o Hyd i Ni

Ar drên
Ceir gwasanaethau trenau rheolaidd i Aberystwyth o Firmingham a Thrafnidiaeth Cymru sy’n eu gweithredu.

Ar fws
Mae bysiau T1, T1C, T2 a T5 Traws Cymru’n gwasanaethu Aberystwyth. Mae bysiau Arriva a Lloyd's Coaches hefyd yn gweithredu gwasanaethau bysiau lleol.

Mewn Car
Aberystwyth (Offer Llywio â Lloeren: SY23 1PG)
Mae Rheilffordd Dyffryn Rheidol yn cychwyn ar Goedlan y Parc/Boulevard St Brieuc, yn agos i ganol Aberystwyth. Dilynwch yr arwyddion brown i’n maes parcio ar Goedlan y Parc/Boulevard St Brieuc (rhwng y safle Parcio a Theithio ac archfarchnad y Co-Operative). Costau parcio yn berthnasol i bawb.
Ceir parcio ychwanegol gerllaw mewn meysydd Parcio Talu ac Arddangos. Osgowch barcio wrth y brif lein rheilffordd a meysydd parcio’r ganolfan siopa leol gan y gellir codi tâl.
Pontarfynach (Llywio â Lloeren: SY23 3JL)
Mae’r orsaf ar yr A4120. Mae lle parcio wrth ymyl platfform yr orsaf.

Parcio
Aberystwyth: mae yna faes parcio ar Goedlan y Parc/Boulevard St Brieuc (rhwng y safle Parcio a Theithio ac archfarchnad y Co-Operative). Costau parcio yn berthnasol i bawb.
Os yw hwn yn llawn, mae parcio ychwanegol ar gael gerllaw mewn safleoedd Parcio Talu ac Arddangos.
Osgowch barcio yn y meysydd parcio wrth y brif lein rheilffordd a chanolfan siopa lleol os gwelwch yn dda gan y gellir codi tâl.
Pontarfynach: Mae lle parcio wrth ymyl platfform yr orsaf.


Stay

Discount off stays with our Card

*available at selected accommodation

Harrys Hotel
Harrys Hotel

Harry’s Hotel achieves a friendly, relaxed and warm environment for all guests in a range of accommodation from single rooms to family rooms.

Gwesty Cymru Bath with a view
Gwesty Cymru

Gwesty Cymru has eight rooms and an award-winning restaurant specialising in the finest Welsh produce. It is situated on the seafront.

The Hafod 2018
The Hafod Hotel

Originally a 1700’s hunting lodge in the 1700's, The Hafod Hotel stands alongside the ‘Devil's Bridge’ it has Bar and Brasserie with 16 bedrooms, including one suite, one family room and three twin rooms.


Nearby

Geograph 6472464 by Chris Allen
The Silver Mountain Experience

Explore the Silver Mountain Experience, with a choice of guided tours discovering the history the Silver-Lead Mine or experience Welsh fantasy and myth an actor led show.

MVW C30 1617 0065 Railway Walks Vale of Rheidol
Railway Walks

Railway Walks in the Vale of Rheidol, a walkers' guide-book, by Maurice Kyle, in association with the railway with 26 local walking routes.

MVW C30 1617 0101 Devils Bridge Falls
Devil’s Bridge Falls

It is a 4-minute walk from the Devil's Bridge Station to the Waterfalls. View the three bridges built one on top of the other and walk through the peaceful wooded gorge to admire the waterfalls.

Book online now!