Rheilffordd Yr Wyddfa

I gopa’r Wyddfa, ers 1896. Disgrifiwyd rheilffordd yr Wyddfa fel taith reilffordd unigryw ac un o’r rhai hyfrytaf yn y byd.

Rheilffordd Yr Wyddfa

Bu Rheilffordd yr Wyddfa’n croesawu ymwelwyr i Lanberis i brofi’r daith rac reilffordd anhygoel i gopa’r Wyddfa ers 1896.

O’r golygfeydd cyntaf o’r cwymp dŵr yn plymio i’r ceunant islaw ar gychwyn y daith i olygfeydd godidog dros ochrau syth ‘Rocky Valley’, mae pob eiliad yn gofiadwy. Datguddir un o olygfeydd ‘panorama’ gorau’r byd wrth i’r trên gyrraedd y Copa. Gall yr hen a’r ifanc sawru awyrgylch fywiog Eryri - Gwlad yr Eryrod o uwchben y cymylau.

Mae rhagor na hanner miliwn o ymwelwyr ar gyfartaledd bob blwyddyn yn ymweld â chanolfan ymwelwyr Hafod Eryri ar gopa’r Wyddfa, ac nid yw’n anodd gweld pam. Ar ddiwrnod clir, mae’r golygfeydd yn ymestyn cyn belled ag Iwerddon. Mae caffi’r copa’n gwerthu amrywiaeth o ddiodydd a byrbrydau poeth ac oer, sy’n sicrhau mai gorsaf Hafod Eryri yw’r orsaf ail-lenwi uchaf yng Nghymru a Lloegr.

Y Profiad Stêm Treftadaeth ar y ‘Snowdon Lily’ a’r ‘Mountain Goat’.

A hwythau’n cael eu gwthio gan locomotifau stem o’r Swistir o 1896, mae’r cerbydau treftadaeth yn ail-luniad o gerbydau arsylwi'r Snowdon Mountain Tramroad & Hotels Company. Adeiladwyd y Snowdon Lily a’r Mountain Goat ar y siasïau a’r ‘bogiau’ gwreiddiol o gerbydau 1896. Teithiwch yn yr un modd ag y gwnaeth eich cyndeidiau wrth i chi esgyn uwchlaw’r cymylau i gopa’r Wyddfa.

Cynghorir ymwelwyr sy’n hoffi ychydig mwy o le i archebu eu taith ar y Profiad Stêm Treftadaeth gyda’i eil ganol, lle gall 34 o bobl eistedd. Mae’r daith yn ôl yn cymryd tua dwy awr a hanner, sy’n cynnwys aros am 30 munud ar y Copa.

Y Gwasanaeth Diesel Traddodiadol

Adeiladwyd cerbydau newydd yn 2013 ar gyfer ein gwasanaeth diesel traddodiadol er mwyn sicrhau y gall ymwelwyr barhau i fwyhau profiad Rheilffordd yr Wyddfa am lawer o flynyddoedd i ddod.

Mae’r cerbydau cyfoes diesel sy’n cael eu gwthio gan locomotifau diesel yr Hunslet Engine Company yn dal hyd at 60 o deithwyr.

Disgwylir i drenau deithio i orsaf Clogwyn, dri chwarter y ffordd i’r Copa yn ystod dechrau’r tymor (Mawrth ac Ebrill).

Rheilffordd Yr Wyddfa map
01286 870 223
Rheilffordd Yr Wyddfa

Llanberis
Gwynedd


LL55 4TT

Dod o Hyd i Ni

Ar drên
Gorsaf agosaf Rheilffordd Genedlaethol (Prydain) yw Bangor.

Ar fws
Mae bysiau Sherpa’r Wyddfa a Chaernarfon/Bangor yn aros yn Llanberis.

Mewn Car
7.5 milltir o Gaernarfon, 10 milltir o Fangor, 17 milltir o Fetws-y-coed.

Parcio
Mae yna faes parcio talu ac arddangos y tu ôl i orsaf Llanberis.


Stay

10% off with our Discount Card

*available at selected accommodation

Snowdon Mountain padarn lake
Padarn Hotel Bistro Bar Rooms

Situated in the beautiful village of Llanberis at the foot of Snowdon, 100m from Padarn Lake and a 5-min walk to the Snowdon Mountain Railway and 20-min to Llanberis Lake Railway.

Snowdon Mountain Glyn Afon Guest House
Gwesty Bach Glyn Afon

Glyn Afon Guest house is in the heart of Llanberis close to the shops, cafes and restaurants. It is a 500 metre walk to the Snowdon Mountain Railway.

Snowdon Mountain the royal victoria
The Royal Victoria Hotel

The Royal Victoria Hotel is uniquely located opposite Snowdon Mountain Railway with 30 acres of gardens and woodland including the historic castle of Dolbadarn.


Nearby

Llanberis Ropeworks Image
Ropeworks Active

Ropeworks Active is set in beautiful woodland in Llanberis, with breath-taking views of lakes and mountains, Ropeworks Active is a memorable experience for families, groups or individuals.

SMR Electric Mountain
Mynydd Gwefru

Yn anffodus bydd Mynydd Gwefru yn cau ar diwedd Dydd Gwener 27fed o Medi 2019 er mwyn ailgychwyn gyda gwaith adnewyddu. Rydym yn gobeithio ail agor yn ystod 2020.

SMR National Slate Museum ALL 2019
Amgueddfa Lechi Cymru

Gyda mynediad am ddim, mae Amgueddfa Lechi Cymru Llanberis yn cynnig rhaglen o arddangosiadau a sgyrsiau drwy gydol y flwyddyn gan gynnwys.

Book online now!