Darganfyddwch

Trenau Bach Arbennig Cymru

UK map

LLEOLIADAU’R RHEILFFYRDD

Profwch brydferthwch cefn gwlad Cymru: ar reilffyrdd bychain sydd mor angerddol wrth sicrhau croeso cynnes a phrofiad arbennig. Teithiwch yn hamddenol wrth i ni eich tywys ar daith fach ymlaciol. Perffaith!

Map of all stations
1
LL23 7DD Llyn Tegid

Rheilffordd Llyn Tegid, taith ddwyffordd 9 milltir ar hyd glannau Llyn Tegid ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Bydd pob trên yn dechrau a gorffen yng ngorsaf Llanuwchllyn gyda’i gaffi, siediau locomotif a chanolfan treftadaeth.

2

Mae’r lein reilffordd hon yn arwain yn uchel i Fannau Brycheiniog ar gylchdaith 10 milltir o hyd, sydd â golygfeydd gwych. Teithiwch o Bant ger Merthyr Tudful ar hyd Cronfa Ddŵr Taf Fechan i Dorpantau.

3
LL38 2EX Fairbourne

Am ragor na chanrif, mae’r rheilffordd yma wedi cysylltu Fairbourne gyda’r môr yn Fferi’r Bermo. Profwch harddwch Moryd y Fawddach ar y lein reilffordd gul fechan (lled 12.25 modfedd) arfordirol hon. Ewch ar y trên am ddiwrnod cyfan gyda thocyn Rover.

4
LL49 9NF Ffestiniog

O’r gosodiad dau blatfform newydd £1.25 miliwn yng Ngorsaf yr Harbwr, Porthmadog, teithiwch i Orsaf Tan y bwlch. Yna ewch yn eich blaen i Flaenau Ffestiniog. Cysylltwch gyda Rheilffordd Ucheldir Cymru am 40 milltir o antur ddi-dor.

5
LL55 4TY Llyn Padarn

Mae’r locomotifau stêm treftadaeth yn mynd â chi ar daith bum milltir ddwyffordd ar hyd glannau Llyn Padarn yng nghanol Eryri. Mae pob tocyn ar gyfer teithio ddwyffordd.

6
LL55 4TT Yr Wyddfa

Bu Rheilffordd yr Wyddfa’n croesawu ymwelwyr i Lanberis i brofi’r daith rac reilffordd anhygoel i gopa’r Wyddfa ers 1896.

7
LL36 9EY Talyllyn

Dyma reilffordd stêm wedi’i chadw gyntaf y byd. Ewch ar stêm drwy ddyffryn hyfryd y Fathew ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Mae’r daith rhagor na saith milltir o hyd yn mynd drwy olygfeydd trawiadol o fewn trem i un o fynyddoedd uchaf Prydain, Cadair Idris.

8
SY23 1PG Dyffryn Rheidol

Teithiwch ar Reilffordd Dyffryn Rheidol ac edmygwch olygfeydd gwych Dyffryn y Rheidol. Bu’r rheilffordd a agorwyd ym 1902, wrth fodd teithwyr hen ac ifanc am ragor na chanrif. Mae’r trên yn dringo 700 troedfedd (200m) yn y 11.75 milltir o Aberystwyth i Bontarfynach.

9

Gan gychwyn o dan furiau castell tref hanesyddol Caernarfon, dringa’r rheilffordd i odrau’r Wyddfa cyn disgyn eto i lefel y môr yn harbwr Porthmadog. Gan gysylltu gyda Rheilffordd Ffestiniog profwch 40 milltir o antur ddi-dor.

10

Mae Rheilffordd Treftadaeth Eryri’n cynnig tri phrofiad am bris un ichi: taith trên, rheilffordd miniatur ac amgueddfa ryngweithiol, gyda thocynnau’n ddilys drwy’r dydd. Taith o Borthmadog i Ben y Mount.

Mae’r rheilffordd gul a’i drên stem yn cysylltu tref farchnad y Trallwng â chymuned wledig Llanfair Caereinion. Mae trofaon a graddau serth ar y lein. Taith ddwyffordd 16 milltir drwy gefn gwlad hyfryd Canolbarth Cymru.

12
SY20 9SH Corris
Cysylltwch â Ni

Ar gyfer y Cerdyn Aur Rhyngwladol a Cherdyn Gostyngiad ac unrhyw fater arall, cysylltwch â’r:

Ysgrifennydd
Trenau Bach Gwych Cymru
Wharf Station
Tywyn
Gwynedd
LL36 9EY

Am ragor o wybodaeth ar reilffyrdd unigol ewch i’r dudalen ‘rheilffyrdd’.

Latest News & Events
What’s Going On?
Ffest Bygones Weekend 23 IMG 5727
Finalists Go North Wales Tourism Awards
23.11.22

Finalist Go North Wales Award

Our sisiter project Wales on Rails is a finalist in the Go North Wales, Go Responsible and Sustainable Green Award.

GLTW DG382449
13.10.22

We Won a Community Rail Award

Full steam ahead for our partnership that project ‘Wales on Rails’, supported by Transport for Wales and the Community Rail Partnerships in Wales and the borders. We won at The Community Rail Awards in the tourism and leisure category.

Book online now!